top of page

Y LLYFRGELL // THE LIBRARY

Ble Cei Di Ddod i Lawr?

Tu ol i'r gan - Anna Georgina

Mae’r gân Ble Cei Di Ddod i Lawr?  ar gyfer pob ffoadur – ond yn arbennig i’r Palesteiniaid oedd yn gorfod gadael eu cartrefi yn y Nakba – y trychineb – yn 1948.  Gadawodd sawl teulu gyda goriadau ei tai, mewn gobaith o fynd yn ôl cyn hir.  “Mae cartref lle mae’r galon” medda’r gân, gyda'r gytgan yn gofyn a oes gorffwys i’r galon. Mae’r enaid yn medru hedfan i ble bynnag, ond gyda nunlle i ddod lawr.

 

Dau beth yn arbennig wnaeth fy sbarduno i'w ysgrifennu.  Un peth oedd doliau wnes i brynu wedi eu gwisgo mewn brodwaith traddodiadol pentrefi oedd wedi dioddef y Nakba – modd o beidio anghofio traddodiadau y cymunedau oedd wedi cael ei dinistrio.

​

Y peth arall oedd ffrind yn dweud hanes sut oedd ei Nain, fel Armeniad, wedi gorfod ffoi o Twrci yn 1915.  Doedd dim lle arall yn gartref iddi am weddill ei hoes, er bod hi wedi magu ei phlant yn Ffrainc.  Wnes i sylweddoli bod ffoaduriad yn gallu cario’i creithiau am weddill eu bywydau.

Derw - Ble Cei Di Ddod i Lawr.jpg

Gwaith Celf: Ffion Pritchard

Nain Mount Carmel did 1929.PNG

Rhwng 1925 a 1930, bu fy nhad, Derwas, yn byw, astudio, gweithio a chloddio ym Mhalesteina - profiad wnaeth newid ei fywyd am byth. Treuliodd wythnosau yn crwydro’r wlad, gan dderbyn lletygarwch mewn pentrefi a phebyll y Bedowiniaid, a gan ambell i fugail ar ei ffordd.

 

Yn ystod yr un amser, bu fy mam, Mary Kitson Clark, yn aelod o dîm archeolegol (merched i gyd) yn Mynydd Carmel. Wrth iddi ymweld â chloddfa mynachdy yn yr anialwch wnaeth hi gyfarfod â fy nhad am y tro cyntaf.  Wnaeth ei phum mis yno aros efo hi am weddill ei hoes. 

Fy mam (Mary - yn y canol) ar y cloddiad yn Mynydd Carmel - 1929

Dwi mor falch bod fy rhieni heb weld sut mae sefyllfa y Palesteiniaid wedi gwaethygu yn ddiweddar.  Tra bod llawer o Balesteiniaid yn byw fel ffoaduriaid drwy’r Dwyrain Canol ac yn Ewrop ac America, mae sawl gwersyll ffoaduriaid ym Mhalesteina ei hun.  Dim yn yr anialwch bellach yw’r mynachdy lle roedd fy nhad yn cloddio mor ofalus, ond mewn canol gwladfa Israëli.  

 

Arhosodd y wlad yn agos at galonnau fy rhieni drwy gweddill eu bywydau, a maent wedi trosglwyddo y cariad yno i mi.  Dwi’n trio gwneud fy rhan fel gwirfoddolwraig i’r elusen Embrace the Middle East, sydd yn gweithio gyda partneriaid ym Mhalesteina/Israel, Yr Aifft, Lebanon, Syria ac Irac  – partneriaid sy’n cefnogi’r pobl mwya bregus – plant, merched, yr anabl - gyda addysg, gofal meddygol ac yn y blaen.  

​

Gwelwch www.embraceme.org am fwy o wybodaeth.

Herds among the olives.jpg

Cartref! Yr olewyddlan - llun wedi ei gymeryd gan fy nhad (Derwas)

Ble Cei Di Ddod i Lawr?

Mae Cartref lle mae're galon

Dwi'n gorfod byw fan hyn

Pell yw fy nghalon o'ma

Dan glwm o rwymau tynn.

 

Cartref, yr olewyddlan

Yr ardd a'r bwthyn clyd

Y teulu annwyl, agos

Y pentre'n gyfanfyd.

 

Arhosa ‘nghalon yno

Heb dychwel nol ar gael

Deng mlynedd nawr ar drigain

Ers diarddeliad gwael.

 

Dos, galon, hedfan

Uwchben y muriau mawr

Dros oesoedd o wahaniad

Ble cei di ddod i lawr?

 

Yr unig rhai sy'n cofio,

Eu hun, ein pentre ni

'Mond plant yr adeg yno

Nawr taid a nain i mi.

 

Mewn lle dros dro gwersyllu,

Yn byw o ddydd i ddydd,

A'r gobaith ein calonnau

Mynd adre - eiddil ffydd!

 

Dos, galon, hedfan

Uwchben y muriau mawr

Dros oesoedd o wahaniad

Ble cei di ddod i lawr?

 

Dos, galon, hedfan

A’r gwynt yn chwythu’n rhydd.

O galon fach hiraethus

Yn rhydd ar esgyll ffydd

bottom of page