DERW - CI
Fideo i sengl ni 'Ci'. Can am dysgu sut i fyw efo iselder.
​
Video for our single 'Ci'. A song about learning to live with depression.
Mikhail
Tu ol i'r gan - Anna Georgina
Mae'r gan 'Mikhail' am ffrind fy nhad - Michael Markoff. Cyfarfodd y ddau pan oedd fy nhad yn ei ail flwyddyn fel myfyriwr graddedig yn yr École Biblique yn Jerusalem. 1926 y blwyddyn, fy nhad yn 25, Michael yn 17 oed ac yn ddisgybl yn Jerusalem Men’s College. Gafodd fy nhad groeso diffuant, cynnes i fewn i gartref Rwsiaidd Mikhail a’i fam Nadia.


Pan yn naw oed, difethwyd bywyd Mikhail – fel bywyd sawl plentyn amser ryfel. Un noson saethwyd ei dad gan y Bolsheviks yn eu cartref yn Sefastopol – Mikhail yn y stafell drws nesaf, a'i fam i ffwrdd (roedd ei dad yn gadlywydd llong danfor Tsaraidd). Welodd fy nhad rhywbeth arbennig yn Mikhail, ac erbyn diwedd y flwyddyn academaidd bu’r ddau yn treulio'i dyddiau sbar gyda’i gylidd yn ymchwilio yr anialwch o gwmpas Jerusalem. Mae'r gan wedi cael ei sgwennu o safbwynt fy nhad - yn disgrifio bywyd Mikhail ac yr amser a treuliodd y ddau efo'i gilydd . Deugain mlynedd wedyn wnaeth fy nhad cysegru ei lyfr The Desert a City i Mikhail – anterth y gwaith y cychwynodd efo fo ym Mhalesteina yn 1926.
Mikhail
Mi ddaeth y dydd, o Palesteina.
Dau estron ar drothwy'r byd
Gadewais innau ‘nglwad a'n nheulu agos am yr awyr las
Mikhail fy nghyfaill, Mikhail tyrd ata i.
Ti ofn, rhy ofn, dy annwyl gartref y glec o'r gwn
Mikhail fy nghyfaill, Mikhail ti’n ffrind i mi.
Lle oedd dy Fam? dy Dad difywyd wrth y tan
Galaru wrth rhodio'r anialdir
Dy daflu dros y byd, yn un o blant aneirif
Nes ti dy fywyd fel enaid oedd ynghyd
Fedrai dy achub di, ma chwyldo'r byd yn llethol rhydd
Mikhail fy nghyfaill, Mikhail paid colli ffydd
Ti ofn, rhy ofn, dy annwyl gartref y glec o'r gwn
Mikhail fy nghyfaill, Mikhail ti’n ffrind i mi.
Lle oedd dy Fam? dy Dad difywyd wrth y tan
Galaru wrth rhodio'r anialdir