top of page

Silver

Tu ol i'r gan - Anna Georgina

Fy mam, Mary Kitson Clark, sydd wedi ysgrifennu geiriau Silver, yn ôl ym mis Rhagfyr 1937 a 1938. Roedd hi wrth ei bodd yn cerdded ar fryniau a dolydd Swydd Efrog, ei chartref annwyl – gyda’i brawd, ffrindiau, neu ar ei phen ei hun - a mae'r gan wedi ei ysbrydoli gan y profiadau yma.  Er bod y teulu yn byw ym Meanwood, dim yn bell o galon ddu, fyglyd Leeds ei hun, roedd yn bosib ffeindo ffordd syth allan i gefn gwlad. Yng nghychwyn y gan, mae hi'n disgrifio coedwig heddychlon - lliwgar ond llonydd. Yn yr ail hanner mae hi'n dod allan o gysgod y goedwig i wynebu gwynt, oerni a tirlun gwyn o eira.

ghjk.PNG
bain.PNG

Gafodd fy mam ei geni ym 1905 (i mewn i deulu peiriannwyr), felly pan oedd hi’n sgwennu geiriau Silver roedd hi yn ei 30au cynnar.  Yn archeologydd, roedd yn cloddio ac yn hel cyllid am gloddfeydd o safleoedd Rhufeinig yn Swydd Efrog, yn gweithio hefyd yn yr Amgueddfa yn Nghaerefrog.

​

Cyflawnodd ei gradd mewn Hanes yng Nghaergrawnt ym 1926, yna'n astudio Archeoleg am flwyddyn.  Roedd hi wedi cyfarfod â fy nhad ym Mhalesteina ym 1929, mewn tîm (merched i gyd) yn gweithio ar Fynydd Carmel, ond ni feddyliodd y ddau am briodi tan 1942. Yn dilyn pwl o’r frech goch pan oedd yn 3 oed, roedd yn rhannol fyddar drwy weddill ei hoes;  ond roedd digon o adnoddau yn ei dychymyg a meddwl – ni wnaeth hi erioed ddiflasu o achos methiant clywed.

​

Roedd fy mam yn hoff iawn o sgwennu a darllen barddoniaeth a wedi trio sawl gwaith yn ystod ei bywyd i gael rhywyun i gyhoeddi ei phenillion, ond heb lwyddiant.Mae Dafydd a finnau mor hapus i allu ddod â'i geiriau hi o flaen y cyhoedd o’r diwedd!

Silver

The sunlight glistens on the holly leaves,

The wood listens, the beck grieves.

Full of water, far below,

Otherwise silence where we go.

​

The rock is yellow, the bracken red,

And both gleam mellow where we tread.

Between two frosts no one denies,

The tender charm of winter skies

​

Yes you're in love an aureole of passion sets the world aglow,

But I'm content with what i know of happiness to feed my soul.

Look how the earth is bound with snow a leaden sky leans on the hill,

Headfirst into the wind i go but there's a fire at home i know

​

When this black cloud has snowed its fill,

See small and dark far walls and trees,

And clear in crystal distance chill,

A pale and glittering world lies still.

bottom of page